Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 30 Mai 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:20 - 12:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies (Cadeirydd) Peter Black Christine Chapman Paul Davies Mike Hedges Ann Jones Julie Morgan Ieuan Wyn Jones |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Alan Davies y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a Rhaglenni Ewropeaidd, i’r cyfarfod Jonathan Price, WEFO Damien O’Brien, WEFO |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Helen Finlayson (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Eleanor Roy (Ymchwilydd) Tom Jackson (Clerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.
2. Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a Rhaglenni Ewropeaidd, i’r cyfarfod.
2.2 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Dirprwy Weinidog.
Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:
· Manylion am yr hyfforddiant a gafodd staff Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ar roi cyngor i noddwyr prosiectau ynghylch y broses gaffael.
· Nodyn i’r Pwyllgor yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn nhrafodaethau Llywodraeth Cymru â’r Comisiwn Ewropeaidd ynghylch mynd i’r afael â materion cyfreithiol a thechnegol sy’n berthnasol i ffynhonnell gyllido JESSICA, sef y rhaglen Cyd-gymorth Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddi Cynaliadwy mewn Ardaloedd Dinesig.
· Rhagor o fanylion am y trafodaethau sydd i ddod gyda’r Pwyllgor Monitro Rhaglenni ar yr effaith y gallai’r gyfradd gyfnewid ei chael ar brosiectau ac ar sut y gellir rheoli risgiau posibl.
3. Papurau i'w nodi
3.1 Nododd y Pwyllgor y dystiolaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Scottish Futures Trust.
3.2 Cymeradwyodd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol, a gynhaliwyd ar 24 Mai 2012.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Eitemau 5 a 6.
5. Trafod y dystiolaeth - Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru
5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd mewn perthynas â’i ymchwiliad i effeithiolrwydd cyllid strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru.
6. Cyllid datganoledig: pwerau benthyg a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf - tystiolaeth allweddol a themâu sy’n dod i’r amlwg
6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod tystiolaeth allweddol a themâu sy’n dod i’r amlwg mewn perthynas â’i ymchwiliad i gyllid datganoledig: pwerau benthyg a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf.